Casgliad Gemwaith Casgliad gemwaith o frôtsis, modrwyau a chlustdlysau yw Crosscut Cabouchon. Cedwir opalau a gloddiwyd yn foesegol o Awstralia mewn gosodiadau lliwgar beiddgar. Caiff Corian o ddarnau dros ben o waith mewnol ei gerfio â llaw, a chaiff alwminiwm a ailgylchwyd o gasys gliniaduron ei anodeiddio i ychwanegu lliw. Caiff aur ac arian a ailgylchwyd o emwaith ystadau eu creu â sgiliau gof aur traddodiadol. Mae gwres rheoledig yn caniatáu gosod y gemau'n uniongyrchol yn y Corian heb ludydd. Mae'r casgliad yn gwahodd y gwisgwyr i weld gemau clasurol mewn goleuni gwahanol.